BBC Cymru Fyw

Radio Ysbyty Gwynedd yn dathlu 40 mlynedd o ddarlledu

Published
image copyrightRadio Ysbyty Gwynedd
image captionMichael Aaron, Sara Wyn a Derec Owen yn gwirfoddoli ar Radio Ysbyty Gwynedd
Bydd un o wasanaethau radio ysbytai'r gogledd yn dathlu carreg filltir y penwythnos hwn.
Mae Radio Ysbyty Gwynedd yn dathlu 40 mlynedd o ddarlledu i gleifion a chymuned yr ysbyty.
Fe ddechreuodd y gwasanaeth yn yr hen ysbyty C&A yn 1976, a chafodd ddiwrnod o weithgareddau ei drefnu ddydd Sadwrn i nodi'r achlysur.
O 10:00 ymlaen, roedd cyflwynwyr Radio Ysbyty Gwynedd o'r gorffennol a'r presennol yn cyflwyno sioeau byw yn stiwdio'r ysbyty.
Mae nifer o gyflwynwyr wedi dechrau eu gyrfaoedd gyda gorsaf Radio Ysbyty Gwynedd, Kev Bach o Orsaf Capitol yn un ohonynt, a Stephen 'Weiran Gaws' Edwards, cyn-gyflwynydd Giang Bangor ar BBC Radio Cymru yn un arall.
Bydd adloniant byw gan amrywiaeth o berfformwyr yng nghyntedd yr ysbyty gan artistiaid yn cynnwys Arfon Wyn, Broc Mor ac fe fydd Caplan yr Ysbyty, Y Parchedig Wyn Roberts, yn gwneud ymddangosiad arbennig fel Elvis.