Carwyn Jones yn amddiffyn record Llafur

  • Cyhoeddwyd
carwyn jones

Wrth iddo wynebu cwestiynau heriol gan gynulleidfa deledu am record Llafur ar y gwasanaeth iechyd ag addysg, mae prif weinidog Cymru wedi rhoi'r bai ar doriadau yng nghyllid o San Steffan.

Pan ofynnwyd i Carwyn Jones, pam ei fod wedi "gwneud llanast" o'r gwasanaeth iechyd, dywedodd Mr Jones: "Gadewch i mi roi'r ateb gorau bosib i chi.

"Fe gafodd ein cyllideb ei thorri o 10% gan y Llywodraeth Geidwadol.

"Er gwaethaf hynny, rydym yn gwario mwy ar iechyd nag erioed o'r blaen."

Mae cyfran cyllideb Llywodraeth Cymru sy'n cael ei wario ar iechyd wedi codi o 42% i 46 %, meddai.

Canmolodd Mr Jones y staff sy'n gweithio i'r GIG, ac meddai "mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael gwasanaeth da y rhan fwyaf o'r amser."

"Ond weithiau, nid yw hynny yn digwydd," ychwanegodd.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn i redeg rhai gwasanaethau, pan fu problemau, gan gynnwys yn y gogledd - lle'r oedd y rhaglen Ask the Leaders ar gyfer BBC One Wales yn cael ei darlledu o Langollen.

Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Tomos Livingstone:

Mae Llafur yn argyhoeddedig taw arweinyddiaeth Carwyn Jones yw prif gryfder y blaid - tydi hi ddim yn gyd-ddigwyddiad fod Mr Jones yn son ei hun am bwysigrwydd 'edrych yn gymwys' i fod yn Brif Weinidog; mae'n neges syml ond, yn nhyb y blaid, un effeithiol.

Ochr arall y geiniog wrth gwrs, yw bod cyfnod wrth y llyw yn golygu fod record i'w hamddiffyn. Fel y bu'n amlwg heno, nid pawb sy'n hapus â'r ffordd mae'r blaid wedi ymgymryd â'r gwasanaeth iechyd ers datganoli.

Mae'r blaid Lafur yn dadlau'n breifat for y gwasanaeth iechyd yn llai o bwnc llosg - gwaddol o'r diwedd, medden nhw, o'r penderfyniad yn 2013 i newid trywydd a chynyddu'n lefel y gwariant ar y gwasanaeth iechyd ar draul adrannau eraill.

Ond os yw heno'n unrhyw faen brawf, ymddengys fod Llafur yn parhau i wynebu talcen caled yn y gogledd yn enwedig taw'r gobaith gorau fyddai cadw'r capten yn ei le.