Rhybudd dirwyon am adael gormod o sbwriel

  • Cyhoeddwyd
Sbwriel

Bydd perchnogion tai yn Sir y Fflint sy'n gyson yn gadael gormod o sbwriel i'w gasglu yn wynebu dirwyon o'r flwyddyn nesaf.

Mae'r penderfyniad gan y cyngor yn rhan o ymdrech i gynyddu cyfraddau ailgylchu i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru.

Dywedodd adroddiad wrth gabinet y cyngor y byddai casglu sbwriel unwaith pob tair wythnos yn cael ei ystyried os nad yw'r rheolau newydd yn gweithio.

O fis Mehefin 2017, bydd rhaid i holl sbwriel gael ei roi mewn biniau olwyn, ac ni fydd unrhyw sbwriel arall yn cael ei gasglu.

Wedyn o fis Medi, bydd unrhyw un sy'n gadael sbwriel ar y stryd ger y biniau yn wynebu dirwy.