BBC Cymru Fyw

Newcastle United 3-0 Abertawe

Published
image copyrightGetty Images
Fe wnaeth Newcastle ennill am y tro cyntaf yn nheyrnasiad Rafael Benitez fel rheolwr wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth argyhoeddiadol dros Abertawe.
Aeth y tîm cartref ar y blaen o beniad Jamaal Lascelles tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf.
Fe wnaeth Ashley Williams a Jefferson Montero fethu cyfleoedd wrth i'r Elyrch reoli'r ail hanner, ond fe wnaeth Newcastle sicrhau'r fuddugoliaeth gyda dwy gôl hwyr gan Moussa Sissoko ac Andros Townsend.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe'n disgyn i 14eg yn yr Uwch Gynghrair, tra bo Newcastle yn parhau yn safleoedd y cwymp.