BBC Cymru Fyw

Caerdydd 0-0 QPR

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Cafwyd ergyd i obeithion Caerdydd o gyrraedd y gemau ail gyfle yn y Bencampwriaeth wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Queens Park Rangers yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Doedd dim un ergyd ar y targed yn yr hanner cyntaf, ond gallai'r ddau dîm fod wedi sicrhau'r thriphwynt mewn ail hanner difyr.
Fe wnaeth Sammy Ameobi ergydio dros y traws yn y munudau olaf, gyda Chaerdydd angen buddugoliaeth i gadw'r pwysau ar y timau o'u cwmpas.
Mae'r Adar Gleision yn parhau yn y seithfed safle yn y tabl, bum pwynt y tu ôl i Sheffield Wednesday sydd o'u blaenau.