Stevenage 2-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd Casnewydd eu trechu gan Stevenage ddydd Sadwrn, gan olygu bod y tîm cartref wedi codi uwch eu pennau yn Adran 2.
Aeth Stevenage ar y blaen ar ôl 10 munud, gyda Jake Mulraney yn penio croesiad Tom Pett i'r rhwyd.
Fe wnaeth cyn-ymosodwr Casnewydd, Aaron O'Connor ddyblu'r fantais cyn i Alex Rodman sgorio gôl hwyr i'r ymwelwyr.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd wedi colli chwe gêm yn olynol am y tro cyntaf ers 11 mlynedd.
Maen nhw'n disgyn i 22ain yn y tabl, 11 pwynt o safleoedd y cwymp.