BBC Cymru Fyw

Tranmere Rovers 1-2 Wrecsam

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Fe wnaeth Wrecsam niwed mawr i obeithion Tranmere o gyrraedd safleoedd y gemau ail gyfle yn y Gynghrair Genedlaethol gyda buddugoliaeth ym Mharc Prenton ddydd Sadwrn.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen trwy gôl Kayden Jackson cyn i James Norwood ei gwneud hi'n gyfartal gyda chic o'r smotyn.
Ond fe wnaeth gôl Sean Newton sicrhau'r fuddugoliaeth i Wrecsam bum munud o'r diwedd.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Tranmere yn disgyn o safleoedd y gemau ail gyfle i seithfed yn y tabl, gyda Wrecsam yn wythfed