Pro12: Scarlets 10-46 Glasgow
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Fe gymrodd Glasgow gam mawr tuag at sicrhau gêm gartref yn rownd gynderfynol y Pro12 gyda buddugoliaeth pwynt bonws dros y Scarlets ddydd Sadwrn.
Sgoriodd Finn Russell a Lee Jones ddwy gais yr un yn erbyn tîm oedd wedi'i wanhau gan salwch yn y dyddiau diwethaf.
Fe wnaeth Henry Pyrgos a Tommy Seymour groesi hefyd i'r ymwelwyr.
Yr unig gysur i'r Scarlets oedd gweld Liam Williams yn sgorio cais wrth iddo ddychwelyd o anaf.