Protestio colli gwasanaethau mamolaeth Ysbyty Llwynhelyg
- Cyhoeddwyd

Mae tua 200 o bobl wedi bod yn protestio y tu allan i'r Cynulliad ddydd Sadwrn i geisio cael gweinidogion i ailddechrau rhai gwasanaethau mamolaeth mewn ysbyty yn Sir Benfro.
Fe gafodd ofal plant dros nos, uned gofal arbenigol i fabanod a rhai gwasanaethau mamolaeth u symud o Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin yn 2014.
Ar y pryd, dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda y byddai'n gwella'r gofal fyddai'n cael ei gynnig.
Ond mae grwp 'Save Withybush Action Team' eisiau gweld y gwasanaethau'n dychwelyd.
'Siomedig iawn'
Dywedodd Glan Phillips - oedd yn arfer gweithio yn yr ysbyty - bod pobl yn Sir Benfro yn teimlo eu bod yn cael eu "hanwybyddu".
"Rydyn ni'n protestio oherwydd ein bod yn siomedig iawn bod y gwasanaethau gafodd eu colli i Glangwili heb gael eu dychwelyd," meddai.
"Ein prif broblem yw bod y rhwydwaith ffyrdd yn wael yn yr ardal, a ry'n ni'n meddwl bod pobl yn debygol o farw am nad ydyn nhw'n gallu cyrraedd Glangwili mewn amser."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o "ynysu cymunedau" wrth gael gwared ar wasanaethau o ysbytai.
Ychwanegodd Plaid Cymru ei fod "wastad wedi gwrthod" cynlluniau Llafur o "israddio ysbytai lleol yn gyson".
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig eu bod yn addo "cadw gwasanaethau allweddol fel mamolaeth a'r uned gofal arbenigol i fabanod".
Fe wnaeth UKIP Cymru gyhuddo'r pleidiau eraill o feio ei gilydd am gau gwasanaethau ysbytai.
Ond mae Llafur Cymru wedi amddiffyn eu penderfyniad, gan ychwanegu eu bod yn "gwrando ar yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrthym" ond bod hefyd angen "dilyn cyngor clinigol".