Dyn wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yn Rhostryfan ger Caernarfon nos Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig wedi 19:00, ar ôl cael eu gwneud yn ymwybodol o'r tân gan aelod o'r cyhoedd oedd wedi gorfodi ei ffordd i mewn i'r adeilad a darganfod fod mwg yn llenwi'r adeilad.
Dywedodd y gwasanaeth tân bod wedi dod o hyd i gorff y dyn a chorff ci mewn ystafell wely.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos y digwyddiad gan y gwasanaeth tân, ond ychwanegwyd nad yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus.