Cymru'n 'dominyddu' twf mewn incwm, yn ôl adroddiad

  • Cyhoeddwyd
ArianFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cymru wedi dominyddu twf mewn incwm o'i gymharu â Lloegr dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl adroddiad.

Fe wnaeth yr adroddiad ddarganfod bod gan gartrefi ym Mhowys 15.4% yn fwy o arian gwario na phum mlynedd yn ôl, tra bo'r rheiny yn Sir y Fflint, Wrecsam a de-orllewin Cymru â 14% yn fwy.

Dywedodd yr adroddiad bod hyn yn rhannol oherwydd bod gan gwmnïau mawr fel Toyota ac Airbus safleoedd yng Nghymru.

Roedd yr ardaloedd â'r twf lleiaf yn y DU yn cynnwys Sheffield a Portsmouth.

Dywedodd Elliott Buss o UHY Hacker Young, wnaeth arwain yr adroddiad: "Mae'r hwb i incwm ar draws Cymru dros y pum mlynedd diwethaf yn dangos rôl bwysig gwneuthurwyr yn y rhanbarth."