BBC Cymru Fyw

Cyhuddo dyn wedi anafiadau i gerddwyr ym Merthyr Tudful

Published
image copyrightHeddlu De Cymru
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi anafiadau corfforol difrifol wedi i gar daro dwy ddynes ym Merthyr Tydfil.
Fe gafodd y ddwy, 19 a 21 oed, eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn y digwyddiad yn ardal Y Rink yn y dref am tua 02:45 fore Sadwrn.
Maen nhw'n parhau yn Ysbyty'r Tywysog Siarl.
Dywedodd Heddlu'r De bod y gŵr 37 oed hefyd yn wynebu cyhuddiadau o ymosod a gyrru dan ddylanwad alcohol, a bydd yn ymddangos gerbron Ynadon y dref ddydd Llun.
Ychwanegodd y llu bod car Renault Megane du wedi'i gymryd o'r safle ar gyfer profion fforensig.
image copyrightGoogle
image captionCafodd y ddwy ddynes eu taro yn ardal Y Rink