Ciwiau pum milltir ar yr M4 wedi i gerbyd droi drosodd

  • Cyhoeddwyd
TraffigFfynhonnell y llun, Traffig Cymru

Mae gyrwyr wedi bod yn sownd mewn ciwiau o bum milltir wedi i gerbyd cario ceffylau droi drosodd ar yr M4 yn Sir Fynwy.

Cafodd y draffordd ei chau i gyfeiriad y dwyrain ger cyffordd 23, gan achosi ciwiau yn ôl at gyffordd 24.

Fe gafodd ddwy lôn eu hailagor am 13:00, a bu'r lôn arall ar gau am ddwy awr ychwanegol.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ei fod yn delio â'r digwyddiad.