Pro 12: Gleision Caerdydd 28-8 Dreigiau Casnewydd Gwent

  • Cyhoeddwyd
Gareth AnscombeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe wnaeth y Gleision gadw eu gobeithion o ennill lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn fyw gyda buddugoliaeth dros y Dreigiau ddydd Sul.

Daeth ceisiau'r Gleision trwy Josh Turnbull, Rey Lee-Lo a Gareth Anscombe.

Fe wnaeth y Dreigiau frwydro'n galed trwy'r gêm, gyda'u pwyntiau'n dod gan gais Sarel Pretorius a chic gosb Dorian Jones.

Mae'r canlyniad yn golygu bod tîm Danny Wilson yn codi'n uwch na'r Gweilch i seithfed yn y tabl, un pwynt y tu ôl i Gaeredin o'u blaenau.