Chwe wiced Clint McKay yn tynnu Morgannwg 'nôl
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth bowliwr cyflym Sir Gaerlŷr, Clint McKay wneud y mwyaf o sefyllfa anodd yng Nghaerdydd gan gymryd chwe wiced ar ddiwrnod agoriadol Pencampwriaeth y Siroedd.
Llwyddodd Morgannwg i gyrraedd sgôr o 348, gyda phedwar o'r batwyr yn pasio 50 o rediadau.
Cafwyd dechrau addawol trwy Will Bragg (50) a Chris Cooke (56) cyn i bethau waethygu yng nghanol y prynhawn.
Ond llwyddodd David Lloyd (59) a Graham Wagg (64) i sefydlogi cyn i'r ymwelwyr gyrraedd 15-0 cyn diwedd y chwarae.