Cwest Cheryl James: 'Tebygol' ei bod yn dal reiffl

  • Cyhoeddwyd
Cheryl James
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Cheryl James yn 1995 ym marics Deepcut

Mae cwest i farwolaeth Cheryl James ym marics Deepcut yn Surrey wedi clywed ei fod yn "debygol" ei bod yn dal reiffl i'w phen cyn iddi farw.

Dywedodd arbenigwr balistig, David Pryor, bod ei gasgliadau yn seiliedig ar ffotograffau o gorff y Preifat James, oedd yn 18 oed ac yn dod o Langollen.

Dywedodd wrth lys y crwner yn Woking bod y dystiolaeth a roddwyd iddo yn "gyson" gydag ergyd cyswllt "agos" ym marics Deepcut yn 1995.

Mae ail gwest i'w marwolaeth wedi dechrau ers mis Chwefror wedi i'r heddlu ddatgelu gwybodaeth newydd, yn dilyn sialens gan ei theulu a chyfreithwyr hawliau dynol.

Gwelodd Mr Pryor, gwyddonydd fforensig yr heddlu gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad, ffotograffau a dynnwyd yn y fan a datganiad gan is-gorporal Bancroft cyn ystyried "a allai'r anafiadau gael eu priodoli i drydydd parti".

Esboniodd ei fod yn 'debygol' bod Cheryl wedi dal y reiffl.

"Mae'r lluniau yn darlunio'r Preifat James gyda reiffl wrth ei hochr ... Rwy'n credu bod y sefyllfa honno yn gyson â hi yn dal y reiffl yn y safle hwnnw."

Ychwanegodd: "Sylwais ar rywfaint o ddu rhwng y bawd a'r mynegfys ar law chwith Ms James... Gallai fod yn weddillion ergyd, gallai fod yn weddillion eraill o'r lleoliad.

"Mewn byd delfrydol byddai wedi cael ei ddadansoddi."

Dywedodd ei bod "wedi dioddef ergyd i flaen y wyneb ... mae adroddiadau o'r lleoliad a'r archwiliad post mortem dilynol yn dangos nodweddion sy'n gyson â ... thrwyn y gwn mewn cysylltiad agos."

Mae'r cwest yn parhau.