Dynion ar do Carchar Abertawe mewn 'uned ar wahân'

Carchar Abertawe Image copyright Bob Griffiths

Mae tri o garcharorion fu'n protestio ar do Carchar Abertawe wedi cael eu rhoi mewn uned ar wahân i'r gweddill sydd dan glo.

Roedd y Gwasanaeth Carchardai wedi gwadu bod cysylltiad â gwaharddiad diweddar o ysmygu yn y carchar.

Dywedodd llefarydd bod carcharorion wedi cael mynediad i'r to er mwyn "ceisio cael cyffuriau" a gafodd, o bosib, eu cuddio yno.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae carchardai Cymru a phedwar yn ne orllewin Lloegr yn rhan o gynllun "di-fwg", ac mae disgwyl iddo gael ei ymestyn.

Fe aeth y dynion ar y to tua 09:50 ac roedden nhw yno tan o gwmpas 16:30.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaethau carchardai: "Mae tri o garcharorion wedi eu rhoi mewn uned ar wahân ar ôl cael mynediad i'r to ddoe gan geisio cael cyffuriau.

"Chafodd hyn ddim ei ysgogi gan y gwaharddiad ysmygu. Mae'r carchar wedi bod yn gweithredu mewn modd arferol ers mynd yn ddi-fwg ac mae'n hollol anghyfrifol dyfalu fel arall.

"Mae'r heddlu yn ymchwilio. Mae unrhyw un sy'n smyglo pecynnau dros waliau carchar, gan gynnwys cyffuriau, yn gallu wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar."

Straeon perthnasol