Dau wedi eu hanafu wedi gwrthdrawiadau yn Eryri
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y gwrthdrawiad cyntaf ar yr A5 ger Capel Curig
Mae dau feiciwr modur wedi eu trin yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiadau yng ngogledd Cymru dros y penwythnos.
Digwyddodd y cyntaf rhwng pedwar cerbyd am tua 13:50 brynhawn ddydd Sul ar yr A5 ger Capel Curig.
Cafodd dyn yn ei 50au o Wrecsam oedd yn gyrru beic modur ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol.
Wedi ail wrthdrawiad ym Maentwrog am 15:30, cafodd beiciwr modur arall yn ei 30au o Sir Caer ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gydag anafiadau i'w goes.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.