Llygad craff ar dre' Llanelli yn Etholiad 2016
- Cyhoeddwyd

Dim ond un sedd sy' wedi newid lliw ym mhob etholiad Cynulliad hyd yma, ac etholaeth tre'r Sosban yw honno.
Dim rhyfedd, felly, fod y byd gwleidyddol yn cadw llygad craff ar Lanelli wrth i bleidleiswyr benderfynu unwaith eto a ydy hi'n bryd newid trywydd.
Mae'r ffaith taw hon yw un o'r etholaethau cymharol brin lle mae 'na frwydr wirioneddol rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn ychwanegu at awch yr anoracs.
Yn 1999 roedd Llanelli'n rhan o stori fawr yr etholiad - fel Rhondda ac Islwyn, trodd y cadarnle Llafur yma'n werdd, gyda Helen Mary Jones yn cipio'r sedd i Blaid Cymru.
Troi a throi bu'r hanes byth wedyn, yn aml o drwch blewyn. Yn 2003 Catherine Thomas o Lafur fu'n fuddugol, o 21 pleidlais yn unig. Daeth Ms Jones yn ei hôl yn 2007, gan ennill o 3,884. Ond 'nôl at Lafur aeth Llanelli yn 2011, gyda Keith Davies y tro hwn yn dod yn gyntaf, gyda mwyafrif o 80.
Pwy sydd yn y ras eleni?
Helen Mary Jones yw'r ymgeisydd Plaid Cymru unwaith eto, am y pumed tro o'r bron. Wyneb newydd sydd gan Lafur, ond un digon cyfarwydd - Lee Waters, cyn newyddiadurwyr gwleidyddol i ITV Wales a chyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig.
Fel nifer o etholaethau eraill ledled Cymru, mae'r Gwasanaeth Iechyd yn bwnc llosg fan hyn, ac mae'r bygythiad i swyddi yng ngwaith dur Trostre hefyd yn taflu cysgod dros yr etholiad.
Ddylai neb ddiystyru'r pleidiau eraill yn Llanelli, chwaith.
Daeth UKIP yn drydydd yma yn yr etholiad cyffredinol, gan sicrhau 16.3% o'r bleidlais; mae'r ymgeisydd, Ken Rees, yn rhoi cynnig arall arni eleni. Mae'r Ceidwadwyr - sydd wedi llwyddo i ennill mwy na 10% fan hyn dros etholiadau diweddar - ynghyd â'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion yn sefyll ym mis Mai, yn ogystal â Siân Caiach, ymgeisydd annibynnol enillodd 2,004 pleidlais hynod o arwyddocaol yn 2011.
Annoeth fyddai i neb ddarogan y canlyniad ar 5 Mai, felly - cawn ddisgwyl weld Llanelli, fel yr arfer, yn torri'i chwys ei hun.