Carwyn Edwards yn gwella mewn ysbyty yn America

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Edwards
Disgrifiad o’r llun,
Mae Carwyn Edwards yn disgwyl am wythfed llawdriniaeth mewn ysbyty yn Phoenix, Arizona

Mae ymgyrch ar-lein i godi arian ar gyfer dyn o Sir Fôn sy'n ddifrifol wael yn yr Unol Daleithiau wedi cyrraedd dros £25,000 erbyn hyn wrth iddo barhau â'i driniaeth.

Fe aeth Carwyn Edwards - yn wreiddiol o Fodedern ond sy'n byw yn America ers 13 mlynedd - yn sâl yn Arizona ddiwedd mis Ionawr, ar ôl cael haint peryglus yn ei waed.

Mae'r dyn 39 oed wedi cael sawl llawdriniaeth a cholli rhannau o'i ddwy goes wrth iddo frwydro am ei fywyd.

Gyda'r trefniadau gofal iechyd yn wahanol yn America, mae apêl wedi'i' lansio ar y we i godi arian i dalu am ran o driniaeth a gofal Carwyn. Y nod yw ceisio codi £100,000 yn y diwedd.

Er bod ganddo yswiriant iechyd, mae o'n dal tua 15% yn brin o'r cyfanswm ar gyfer yr holl driniaeth a'r gofal.

Disgrifiad,

Dylan Jones fu'n holi Carwyn ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru.

'Marw ddwywaith'

Am y tro cynta', mae Carwyn wedi bod yn siarad am ei brofiadau efo rhaglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru.

"Dwi wedi bod mewn tri neu bedwar ysbyty gwahanol," meddai. "Maen nhw'n d'eud wrtha' i 'mod i 'di marw ddwywaith, a'u bod nhw wedi gorfod ailddechrau 'nghalon i."

"Ond o'n i'n cysgu ar y pryd, felly do'n i ddim callach o'r sefyllfa. Dwi wedi bod yn ffodus - dwi'n dal yn fyw 'efo pawb o 'nghwmpas i."

Pa mor anodd yw aros yn bositif ar ôl bod trwy gyfnod mor anodd?

"Gan fod gen i ddigon o deulu a ffrindiau o gwmpas, dwi'm yn teimlo'n isel. Dwi'n falch o fod yn fyw - mae'n rhaid edrych ar y positif.

"Fel arall, mi fydda' chi'n mynd yn wallgo os na fydda' chi'n aros yn bositif. Dwi'n chwerthin, cadw'n brysur, darllen a phetha' fel 'na i gadw'r ysbryd i fynd."

'Codi calon'

Mae ei frodyr, Aled ac Ieuan, a'i dad, Meirion, wedi bod wrth wely Carwyn yn ystod ei salwch. Dydy Aled a Meirion Edwards ddim wedi bod 'nôl yng Nghymru ers deufis.

Meddai Carwyn: "Mae'n codi dy galon di pan ti'n gweld dy deulu. Dwi'n hynod ddiolchgar bod y teulu yma, a diolchgar iawn am yr holl negeseuon dwi'n cael gan bobl o gwmpas y byd. Mae'n hwb i mi barhau i wella."

Mae eisoes wedi cael sawl llawdriniaeth, ac mae ar hyn o bryd yn disgwyl am driniaeth arall.

"Unwaith fod y driniaeth ola' wedi bod," meddai, "dwi fod i ddechrau dysgu cerdded , cryfhau cyhyrau'r corff. "

"Dwi ddim 'di cerdded ers misoedd. Proses rehab am 'chydig dros yr wythnosau nesa', os fydd popeth yn mynd yn iawn."

Fydd 'na gynlluniau i ddychwelyd i Gymru ar ôl gwella tybed?

"'Swn i'n licio dod adra i weld gweddill y teulu gyntaf," meddai, "wedyn edrych ar yr opsiynau."

Hefyd gan y BBC