Galw am well rheolaeth o'r diwydiant ffonau symudol
- Cyhoeddwyd

Dywed Cyngor Ar Bopeth (CAB) fod angen rheoleiddio'r diwydiant ffonau symudol yn well er mwyn rhwystro pobl rhag mynd i ddyled.
Yn ôl CAB, mae hefyd angen gweithredu er mwyn atal y cwmnïau ffôn rhag defnyddio'r hyn sy'n ymddangos fel "tactegau bwlio" wrth geisio casglu dyledion.
Daw'r galwadau ar ôl i Geoff Lloyd, meddyg o Bontypridd, ddod ag achos llys llwyddiannus yn erbyn EE ar ôl i'r cwmni godi tâl o filoedd o bunnoedd arno ar gam.
Dyfarnodd y llys yn erbyn EE a bu'n rhaid iddynt dalu £3,741.80 mewn iawndal a chostau.
Roedd Dr Lloyd wedi arwyddo cytundeb gyda'r cwmni ar gyfer ei fab. Roedd o'n credu fod y cytundeb yn gosod tâl uchafswm o £13.99 y mis.
Dywedodd ei fod wedi gofyn am gytundeb o'r fath oherwydd bod ei fab wedi cael biliau uchel iawn yn y gorffennol.
Talu dros £3,500
Cafodd ei "syfrdanu ac roedd yn geg agored", meddai, pan dderbynion nhw lythyr gan ei fanc yn dweud fod EE yn ceisio cymryd £1,500 o'i gyfrif.
"Roeddwn yn meddwl mai camgymeriad ofnadwy oedd hwn, felly fe es i'r banc a darganfod eu bod eisoes wedi cymryd £1,000 allan y mis blaenorol, a channoedd o bunnoedd cyn hynny hefyd."
Dywedodd ei fod wedi gorfod talu mwy na £3,500 dros gyfnod o bum mis.
Yn ôl Dr Lloyd, roedd EE yn fygythiol ac wedi defnyddio "tactegau bwlian" er mwyn mynd ar ôl y ddyled.
Ychwanegodd ei fod yn anodd siarad ag unrhyw un yn uniongyrchol, a'i fod wedi ceisio cysylltu sawl gwaith.
Dywedodd ei fod yn y broses o herio'r ddyled, pan gysylltodd casglwyr dyledion ag ef.
"Cefais lythyr yn gyntaf yn dweud y byddant yn dinistrio fy sgôr credyd pe na fyddwn yn talu'n syth.
"Wythnos yn ddiweddarach cefais lythyr yn dweud eu bod am anfon beili i gasglu eiddo o fy nhŷ."
Dywedodd llefarydd ar ran EE fod Dr Lloyd wedi arwyddo cytundeb lle nad oedd "unrhyw gyfeiriad at uchafswm ac a oedd yn datgan yn glir y byddai unrhyw ddefnydd y tu allan i'r cynllun yn golygu tâl a thelerau arferol EE y tu allan i amodau'r pecyn penodol."
Ychwanegodd fod modd i gwsmeriaid EE fonitro eu defnydd, ac roedd yna opsiynau i bobl oedd am reoli eu defnydd, er enghraifft drwy ddefnyddio opsiwn Talu wrth Fynd.
"Yn yr achos hwn fe benderfynodd Cynllun Barnu'r Gwasanaethau Cyfathrebu a Rhyngwyd nad oedd Dr Lloyd yn gymwys i dderbyn ad-daliad."
Arian i elusen
"O ganlyniad, roedd Dr Lloyd yn parhau i dderbyn llythyrau sy'n cael eu hanfon yn awtomatig yn gofyn am i ddyledion gael eu talu."
Mae Cyngor ar Bopeth yn derbyn tua 62,000 o gwynion y flwyddyn am ddyledion a chytundebau ffonau symudol
Dywedodd Alun Thomas, llefarydd ar ran CAB: "Rydym yn credu y dylai ffonau symudol gael eu rheoleiddio yn yr un modd a dŵr, trydan a nwy er mwyn cryfhau hawliau cwsmeriaid.
"Ar hyn o bryd, os ydym eisiau cerdyn credyd, mae'n rhaid gwneud cais am gerdyn credyd, ac fe fydd y cwmni yn ystyried beth allwch fforddio talu, a gosod terfyn yn unol â hynny. "
Dywedodd Dr Lloyd fod ganddo bryder am bobl sydd mewn sefyllfa debyg.
"Roeddwn i yn gallu fforddio talu, ond i rai pobl mae'n bosib na fyddant yn gallu cadw lan gyda thaliadau morgais, mae'n bosib y byddai tŷ yn cael ei adfeddiannu, i eraill fe allai olygu nad ydynt yn gallu fforddio talu'r rhent a bod landlord yn eu taflu mas."
"Mae'n annerbyniol fod cwmni yn gallu defnyddio tactegau bwlian o'r fath er mwyn casglu symiau mawr sydd wedi cynyddu heb eu bod nhw'n ymwybodol o hynny."
Fe wnaeth Dr Lloyd roi'r arian a dderbyniodd gan EE o ganlyniad i'r achos llys i elusen.
Dywedodd llefarydd ar ran y corff rheoleiddio Ofcom: "rydym wedi bod yn gweithio gyda gwasanaeth Cyngor ar Bopeth a darparwyr ffonau symudol er mwyn taclo nifer o'r materion yma.
"Byddwn hefyd yn disgwyl i ddarparwyr ymddwyn mewn modd cyfrifol wrth ddelio gyda chwsmeriaid sy'n cael trafferthion talu am wasanaethau. Pe bai gan CAB dystiolaeth o fwlian neu o roi pwysau annheg, byddwn yn croesawu cael gweld y dystiolaeth.