Pryderon o'r newydd am gartref gofal ger Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Plas-y-Bryn

Mae pryder am safon y gofal mewn cartref nyrsio yng Ngwynedd wedi eu codi unwaith eto mewn adroddiad newydd.

Roedd 'na feirniadaeth hallt o'r ddarpariaeth ym Mhlas y Bryn Bontnewydd cyn i'r lle gau gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Mewn sawl adroddiad beirniadol y llynedd, mi gododd arolygwyr bryderon am lefelau staffio, rheolau a safon y gofal ym Mhlas y Bryn.

Mae'r adroddiad diweddara yn cyfeirio at yr ymweliad diwethaf ddiwedd Tachwedd a dechrau Rhagfyr - wythnosau cyn i'r cartre gau.

Mae nhw'n dod i'r casgliad nad oedd y cartref wedi cyflwyno nifer o'r gwelliannau roedd eu hangen a bod bywydau'r preswylwyr mewn perygl oherwydd y methiannau.

Mae heddlu'r gogledd wedi cadarnhau bod eu hymchwiliad i honiadau o esgeulustod yno'n parhau.