Cymro coll ym Mheriw 'wedi ei weld' gan berson lleol

  • Cyhoeddwyd
Harry GreavesFfynhonnell y llun, Teulu Greaves

Cafodd Cymro sydd ar goll ym Mheriw ei weld gan berson lleol yn fuan wedi iddo fynd ar goll, yn ôl elusen sy'n helpu gyda'r chwilio amdano.

Fe ddiflannodd Harry Greaves ar 7 Ebrill wedi iddo gyhoeddi cynlluniau i dreulio'r diwrnod yn cerdded y mynyddoedd ar ei ben ei hun.

Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Lucie Blackman, sy'n cynorthwyo gyda'r chwilio, fod yna adroddiadau sydd heb eu cadarnhau ei fod wedi ei weld yn cerdded i gyfeiriad pentref Pisac.

Mae'r elusen yn canolbwyntio'i hymdrechion ar yr ardal hon.

Cafodd Mr Greaves ei eni yn Y Waun ger Wrecsam, ond fe'i magwyd yng Nghroesoswallt, Swydd Amwythig. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Iâl Wrecsam.

Ffynhonnell y llun, Teulu Greaves
Disgrifiad o’r llun,
Teithiodd Mr Greaves i Periw i dreulio amser gyda ffrindiau.

Nos Lun, anfonodd mam Mr Greaves, Sarah, neges at ei merch Ellen, gyda'r diweddaraf am y chwilio.

Dywedodd: "Mae ei ffrinidau'n grŵp anhygoel ac mae pawb yn benderfynol o ddod o hyd iddo.

"Mewn cyfarfod heno, maen nhw wedi eu rhoi mewn tri grwp i chwilio'r ardaloedd lle mae e fwya tebygol o gael ei ddarganfod. Rydym yn mynd i dalu pobl leol i helpu."