Athrawon yr NUT ym Mhowys i streicio

  • Cyhoeddwyd
streic NUT

Mae undeb athrawon yr NUT yn bwriadu cynnal streic ym Mhowys ddydd Iau, fel protest yn erbyn "llwyth gwaith gormodol a thoriadau".

Mae 83.5% o aelodau undeb yr NUT ym Mhowys wedi pleidleisio dros fynd ar streic i brotestio'n erbyn "llwyth gwaith gormodol a thoriadau".

Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynlluniau i ailstrwythuro ysgolion uwchradd yn y sir.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys eu bod wedi eu synnu a'u siomi â'r cyhoeddiad.

Toriadau a llwyth gwaith

Dywedodd Dee Hansen, swyddog gyda'r NUT ym Mhowys:

"Mae athrawon ym Mhowys yn flin fod addysg plant yn cael ei danseilio gan doriadau a llwyth gwaith gormodol, a bod atebolrwydd yn llesteirio creadigrwydd athrawon ac yn dirywio moral."

"Rydym yn mynd ar streic fel rhan o'r frwydr i adfer cyllid ar gyfer addysg ein plant a phroffesiynoldeb athrawon, ac fel rhan o'r frwydr i adfer creadigrwydd.

"Bydd aelodau'r NUT ym Mhowys yn gorymdeithio o Ysgol Uwchradd Llandrindod i adeilad neuadd y Sir am 10:00 ar 21 Ebrill - dydyn ni ddim yn streicio oherwydd tâl a chyflogau, rydym yn cymryd y cam hwn ar ran plant Powys gan fod eu hawl i addysg dda yn cael ei danseilio."

Ffynhonnell y llun, Oliver Dixon/Geograph
Disgrifiad o’r llun,
Mae Cyngor Powys ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynlluniau i ailstrwythuro ysgolion uwchradd yn y sir

Dywedodd aelod Cabinet Ysgolion y Sir, y cynghorydd Arwel Jones:

"Rwyf wedi fy synnu a'm siomi fod yr NUT yn bwriadu streicio mor agos at gyfnod arholiadau tyngedfennol i ddisgyblion, ac yng nghanol ymgynghoriad ar ddyfodol ysgolion uwchradd yng nghanol a de Powys."

"Mae ein hysgolion yn wynebu heriau y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw os yw plant i gyflawni eu potensial. Mae niferoedd disgyblion yn gostwng, sy'n effeithio ar y cyllid rydym yn ei dderbyn ac sy'n cyfyngu ar ein gallu i ddarparu'r cwricwlwm cenedlaethol llawn a chynnal safonnau."

"Byddem yn methu'n disgyblion pe na baem yn mynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu'n hysgolion uwchradd. Fydd y gweithredu ddim yn effeithio ar ein rhaglen, ond gallai darfu ar waith disgyblion ar amser tyngedfennol."