Cyllideb iechyd: Beirniadu honiad y Ceidwadwyr
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi amddiffyn honiad y gallai arbedion o hyd at £1bn, neu 14%, gael eu gwneud o gyllideb flynyddol y gwasanaeth iechyd.
Ddydd Llun, dywedodd ymgeisydd y blaid Andrew Atkinson bod "tua £1bn y flwyddyn" o wastraff yn y GIG.
Ddydd Mawrth, dywedodd yr arweinydd, Andrew RT Davies bod y ffigwr yn seiliedig ar sylwadau i ACau gan uwch reolwr y GIG yn 2009.
Mae'r pleidiau gwleidyddol eraill wedi dweud bod honiadau Mr Atkinson yn "wallgof" ac o bosib yn "ofnadwy" i'r GIG.
Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud y byddan nhw'n cynyddu gwariant yn y GIG yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf mewn termau real, os ydyn nhw mewn grym.
Tua £7bn yw cyllideb flynyddol y GIG yng Nghymru ac mae byrddau iechyd yn wynebu arbedion o 3% y flwyddyn.
Dywedodd Mr Atkinson wrth BBC Radio Wales: "Mae yna tua £1bn y flwyddyn o wastraff yn y GIG o flwyddyn i flwyddyn.
"Byddwn ni'n taclo'r gwastraff hynny i wneud yn siŵr ein bod yn defnyddio'r gyllideb hynny yn fwy addas a'i thargedu yn y lle iawn."
Wrth amddiffyn yr honiad dywedodd Mr Davies: "Mae'r ffigwr yn sefyll am ei fod wedi ei roi gan y Cyfarwyddwr Cyllid ar y pryd, yn 2009, i bwyllgor cyllid y Cynulliad.
"Felly dwi'n cymryd ei fod yn gwybod ei friff a'i fod yn siarad am y ffeithiau o'i safbwynt ef.
"Rydyn ni i gyd wedi gwybod ers peth amser ein bod ni angen symud gwasanaethau o'r sector dwys, hynny yw o ysbytai mawr ac i'r gymuned, oherwydd dyna lle mae pobl eisiau cael eu trin.
"Rydyn ni hefyd yn gwybod...y gall fferyllwyr cymuned chwarae rôl fwy blaenllaw yn cynnig gwasanaethau hefyd."
'Effaith ofnadwy'
Mae Plaid Cymru yn barod wedi dweud y byddan nhw yn gwneud arbedion o £300m y flwyddyn.
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones: "Fydd Plaid Cymru ddim yn torri un geiniog o gyllideb GIG. Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn gwasanaethau ar y rheng flaen fel mwy o ddoctoriaid a nyrsys a diagnosis cyflymach.
"Mae'r Ceidwadwyr mewn gwirionedd yn sôn am beth sydd yn gyfystyr a tua seithfed o holl gyllideb GIG Cymru ac mi allai hyn gael effaith ofnadwy ar wasanaethau gan olygu bod pobl yn gorfod aros yn hirach a bod llai o weithwyr ar wardiau ysbytai."
"Mae Llafur wedi gwanhau y GIG yng Nghymru ac mae pobl yn gwybod na allan nhw ymddiried yn y Ceidwadwyr gyda'r GIG.
"Dim ond Plaid Cymru all roi'r newid sydd ei angen ar y GIG - gyda'n cynlluniau i recriwtio a hyfforddi 1000 o ddoctoriaid ychwanegol a 5000 o nyrsys, lleihau rhestrau aros a gwella mynediad i gyffuriau.
"Mae angen i'r Ceidwadwyr fod yn onest- a ydyn nhw yn defnyddio arian allai fynd i'r GIG ac i leihau amseroedd aros i dalu am ei pholisi torri treth?"
Dywedodd llefarydd ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru:
"Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn credu bod angen i'r GIG fod yn fwy effeithlon a bod pob ceiniog yn cyfri. Ond mae costio polisïau ar sail 'arbedion' o biliwn o bunnoedd yn wallgof.
"Mae maniffesto'r Ceidwadwyr yn cymryd yn ganiataol bod pobl Cymru yn ffyliaid.
"Bydd y Ceidwadwyr yn gwneud toriadau enbyd i'n gwasanaethau cyhoeddus i gyllido eu haddewidion, sydd heb eu costio."
Gwastraff arian
Mae UKIP yng Nghymru yn dweud y bydden nhw yn cynnal "ymchwiliad annibynnol" er mwyn gweld lle mae yna wastraff o fewn y gwasanaeth iechyd ac i weld lle mae angen adnoddau ar gyfer y gwasanaethau rheng flaen.
"Does yna ddim digon o arian wedi ei fuddsoddi mewn rhai adrannau sydd wedi golygu bod amseroedd aros yn annerbyniol a bod yna ddiffyg dewis o ran triniaeth. Ond hefyd mae gormod o arian yn cael ei wario ar reolwyr."
Dywedodd y Prif Weinidog Llafur Carwyn Jones bod arbedion mewn gwirionedd yn golygu toriadau ac fe ofynnodd i'r Ceidwadwyr ddarparu tystiolaeth bod y GIG yng Nghymru yn gwastraffu £1bn y flwyddyn.
"Mae'n un peth i wneud honiadau gwyllt, mae'n beth arall i gefnogi'r hyn maen nhw'n ei ddweud," meddai.
"Mae e bron fel eu bod nhw wedi penderfynu na fyddan nhw'n fuddugol felly maen nhw'n gwneud unrhyw addewidion."