Carcharu dyn am drywanu ei fam i farwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Llys Abertawe/ Mark StephensFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae dyn wedi ei garcharu am oes am drywanu ei fam i farwolaeth gyda chyllell gerfio a fforc.

Ymosododd Mark Stephens, 44 oed, ar ei fam ar ôl iddi feirniadu'r ffordd yr oedd o'n rheoli'r busnes teuluol, oedd mewn dyled.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod gan Rita Stephens, 67 oed, 38 o anafiadau ar ei chorff wedi'r ymosodiad ym Mhencoed, Sir Pen-y-bont.

Cafwyd Stephens yn euog o lofruddio gan y rheithgor, ac wrth ei ddedfrydu dywedodd y barnwr y byddai yn y carchar am o leiaf 20 mlynedd.

'Milain a chreulon'

Clywodd y llys bod Mr Stephens wedi bod yn yfed gyda'i frawd ar ddiwrnod yr ymosodiad ym mis Mehefin 2015.

Dywedodd wrth y llys: "Fe wnes i wylltio. 'Nes i ddechrau mynd yn flin a cherdded i'r ystafell gefn i nôl cofnodion fy nyledion.

"Dw i'n cofio hi'n fy mhlagio am fod yn feddw ac yn dadlau am fy nyledion..."

Ychwanegodd: "Yn fy mhen o'n i'n meddwl 'Dwi wedi colli popeth achos ti' ac fe wnes i sefyll, fe wnaethon ni gydio yn ein gilydd ac fe wnes i wylltio."

Disgrifiad o’r llun,
Cafwyd hyd i gorff Rita Stephens mewn tŷ yn Nhon-teg, Pencoed.

Dywedodd Roger Thomas QC ar ran yr erlyniad bod yr ymosodiad yn "filain a chreulon" ac nad oedd gan Stephens "unrhyw barch tuag at ei fam".

Roedd Stephens wedi cyfaddef dynladdiad ond wedi gwadu llofruddiaeth.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr Mr Ustus David Holgate nad oedd Stephens wedi dangos "unrhyw edifeirwch" am ladd ei fam.

Wedi'r dyfarniad dywedodd teulu Rita Stephens: "Mae ein teulu wedi uno mewn galar wedi i ni golli person prydferth."