Oedi mewn profion canser yn 'peryglu bywydau'

  • Cyhoeddwyd
canserFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae oedi mewn gweithredu ffyrdd newydd i sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yng Nghymru yn peryglu bywydau, medd elusen blaenllaw.

Mae'r corff sy'n cynghori'r gwasanaeth iechyd wedi argymell cyflwyno'r prawf newydd, sy'n haws i bobl ei gwblhau gartref.

Cafodd Iechyd Cyhoeddus Cymru orchymyn i barhau â chynlluniau i gyflwyno'r pecynnau profion newydd, ond maent yn aros i Lywodraeth Cymru roi eu sêl bendith.

Mae'r elusen Bowel Cancer UK yn dweud bod "mwy o fywydau yn cael eu colli" o ganlyniad i hyn.

Un prawf yn lle tri

Ar hyn o bryd mae'r unrhyw un sydd rhwng 60 a 74 oed, ac wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, yn cael pecyn profi canser y coluddyn drwy'r post bob dwy flynedd.

Mae'r profion presennol yn cymharu tri o samplau carthion yr unigolyn, dros gyfnod o bythefnos, i weld a oes unrhyw olion o waed yn bresennol - sef un o'r arwyddion mwyaf arwyddocaol y gallai rhywbeth fod o'i le.

Ond dim ond un sampl mae'r prawf newydd yn ei brofi.

Mae hynny'n golygu ei fod yn llai llafurus, sydd yn ei dro yn eu gwneud yn fwy tebygol y bydd y profion yn cael eu cwblhau ac y bydd samplau yn cael eu dychwelyd.

"Mae sgrinio am ganser y coluddyn yn achub bywydau, felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod mwy o bobl yn llenwi a dychwelyd y prawf pan fyddant yn eu derbyn yn y post," meddai Deborah Alsina, prif weithredwr Bowel Cancer UK.

"Gall sgrinio ganfod canser y coluddyn yn gynnar mewn pobl sydd heb symptomau, pan ei bod yn haws i'w drin."