Etholiad: Beth nesaf i Faldwyn?

  • Cyhoeddwyd
maldwyn

Traddodiad rhyddfrydol sydd ym Maldwyn, ond dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn dalcen caled i'r Democratiaid Rhyddfrydol, wrth i'r Ceidwadwyr gipio'r awenau a chynrychioli'r etholaeth yn y Cynulliad ac yn San Steffan.

Ers sefydlu'r Cynulliad, Mick Bates fu'n cynrychioli'r sedd dros y Democratiaid Rhyddfrydol, ond yn dilyn ei ymddeoliad yn 2010, llwyddodd Russell George i'w hennill dros y Ceidwadwyr yn 2011 gyda mwyafrif o 2,324.

Flwyddyn ynghynt newidiodd lliw yr etholaeth yn yr etholiad cyffredinol - o felyn i las. Trodd y cadarnle rhyddfrydol yn gartref i'r Ceidwadwyr yn 2010 ar ôl i Glyn Davies guro'r aelod fu'n cynrychioli'r ardal am dros ddegawd, Lembit Opik.

Bydd y Rhyddfrydwyr yn brwydro'n galed i ail-gipio Maldwyn oddi ar Russell George ond bydd yn rhaid i'r ymgeisydd, Jane Dodds, hogi ei harfau.

Yn cynnwys trefi'r Trallwng, y Drenewydd a Machynlleth, mae Maldwyn yn etholaeth wledig, sydd wedi gweld sawl phrotest yn cael ei chynnal i wrthwynebu codi ffermydd a thyrbinau gwynt. Ond fel sawl etholaeth arall mae addysg ac iechyd yn bwrw cysgod ac yn bynciau llosg ymhlith etholwyr.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Lembit Opik yn cynrychioli'r ardal yn San Steffan am dros ddegawd

Mae cynlluniau i ad-drefnu ysgolion yn fater o bwys ac ymgynghoriad ar gynlluniau i ailstrwythuro ysgolion uwchradd yn y sir yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Yn ogystal â sawl ardal arall y ffin, mae 'na ofnau bod newidiadau iechyd dros Glawdd Offa yn Sir Amwythig yn mynd i effeithio ar gleifion yng Nghymru.

Er gwaethaf cael cyfran uwch o bobl mewn gwaith na chyfartaledd Cymru mae'r cyflog wythnosol ym Maldwyn yn is o ryw £50.

Mae cartref y Senedd Gymreig hynafol ym Maldwyn ar ôl i Owain Glyndŵr gael ei goroni'n Dywysog Cymru ym Machynlleth yn y bymthegfed ganrif.

Er mai dau geffyl blaen sydd yn draddodiadol wedi bod ar garlam yn yr etholaeth, bydd yr ymgeiswyr eraill sy'n cynnwys Martyn Singelton o'r blaid Lafur, Aled Morgan Hughes o Blaid Cymru, Des Parkinson o UKIP a Richard Chaloner o'r Blaid Werdd yn ymdrechu i leihau'r bwlch.

Nod pob un yw ceisio cyrraedd y Senedd gyfoes ym Mae Caerdydd