Trais difrifol: Dim gostyngiad

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Nid yw lefelau trais difrifol wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf, a hynny yn dilyn saith mlynedd o leihad cyson, yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd.

Mae'r Grŵp Ymchwil Trais wedi bod yn dadansoddi data o 91 o unedau brys ar draws Cymru a Lloegr, ac maent wedi dod i'r casgliad fod nifer yr achosion wedi codi ychydig.

Fodd bynnag, roedd newid sylweddol ymhlith dioddefwyr dros 50 oed, gyda chynnydd o 8% yn nifer yr achosion yn y grŵp oedran hwnnw.

Dywedodd un arbenigwr ei bod yn bosib bod y "gostyngiad cyson hir" mewn trais wedi dod i ben.

Mae'r astudiaeth flynyddol yn dangos bod 210,213 o bobl wedi bod angen triniaeth ysbyty neu unedau mân anafiadau ar ôl digwyddiadau treisgar y llynedd. Mae'r ffigwr yna 1,299 yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.

Dynion a bechgyn yn fwy tebygol

Dywedodd yr Athro Jonathan Shepherd, cyfarwyddwr y grŵp: "Ar ôl cwymp blynyddol mewn lefelau cyffredinol o drais yng Nghymru a Lloegr, dyma'r tro cyntaf ers 2008 i ni beidio â gweld unrhyw newid sylweddol mewn lefelau trais difrifol yng Nghymru a Lloegr.

"Mae'n bosibl bod y lleihad cyson mewn trais yng Nghymru a Lloegr wedi dod i ben."

Mae dynion a bechgyn dros ddwywaith yn fwy tebygol na merched o dderbyn triniaeth ar ôl dioddef trais.

Y categori mwyaf sy'n cael eu trin ydi dynion rhwng 18 a 30 oed, ac yn fwyaf tebygol o gael eu trin ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul ym misoedd Mai, Awst a Rhagfyr.

Dywedodd yr Athro Shepherd gallai toriadau mewn cyllid ar gyfer monitro teledu cylch cyfyng a dadansoddi troseddau fod yn un rheswm am y newid negyddol mewn lefelau trais.