Plaid Cymru yn addo cael gwared â ffioedd gofal

  • Cyhoeddwyd
Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Elin Jones y gallai'r rhai sydd â pherthnasau mewn gofal preswyl arbed hyd at £30,000 y flwyddyn

Byddai cael gwared ar ffioedd gofal ar gyfer yr henoed a dioddefwyr dementia yn arbed miloedd o bunnoedd i bob blwyddyn i deuluoedd, medd Plaid Cymru.

Mae'r blaid eisiau cael gwared ar y ffioedd dros gyfnod o 10 mlynedd, ar gost o £226m.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, y gallai'r rhai sydd â pherthnasau mewn gofal preswyl ar gyfer dementia arbed hyd at £30,000 y flwyddyn.

Mae'r pleidiau eraill wedi ymrwymo i godi'r swm y gall pobl gadw cyn cael eu gorfodi i gyfrannu at eu gofal cymdeithasol.

'Contract cymdeithasol'

Dywedodd Ms Jones y byddai Plaid Cymru yn anrhydeddu'r "contract cymdeithasol, gyda phobl sydd wedi gweithio drwy gydol eu bywydau, yn talu eu trethi, ac sydd yn awr angen gofal".

"Dros gyfnod o ddeng mlynedd, byddwn yn gwneud pob gofal cymdeithasol yng Nghymru yn rhad ac am ddim, gan ddechrau gyda gofal cartref, ac yna gwneud gofal ar gyfer y rhai sydd â dementia ac sydd mewn cartrefi preswyl yn rhad ac am ddim, ac yna diddymu holl daliadau i bawb dros 65 oed, "meddai.

"Ar hyn o bryd os ydych yn talu am ofal yn y cartref drwy'r cyngor lleol, mae'n costio hyd at £60 yr wythnos, neu £3,120 y flwyddyn.

"Bydd hyn yn helpu'r oddeutu 13,000 o bobl yng Nghymru sy'n byw gyda dementia."

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Darren Millar fod "gormod o bobl hŷn yn gweld eu holl waith caled yn cael ei wario ar gostau gofal"

Mae'r Ceidwadwyr, hefyd yn ymgyrchu ar ymrwymiadau i bobl hŷn, maent yn addo diogelu £100,000 o asedau ar gyfer y rhai mewn gofal preswyl.

£24,000 yw'r trothwy presennol.

Dywedodd llefarydd iechyd y blaid, Darren Millar: "Mae gormod o bobl hŷn yn gweld eu holl waith caled yn cael ei wario ar gostau gofal.

"Mae'n annheg iawn, ac yn sgandal sydd wedi cael ei hanwybyddu gan Lywodraeth Lafur Cymru.

"Byddai Llywodraeth Geidwadol Cymru yn blaenoriaethu cymorth ar gyfer y rhai sy'n mynd i ofal preswyl.

"Byddem yn diogelu asedau cyfalaf o hyd at £100,000 a byddem yn caniatáu i bobl gynllunio ar gyfer eu dyfodol gyda sicrwydd ynghylch eu costau gofal, gan osod cap wythnosol o £400 am ofal preswyl a nyrsio."

Mae Llafur hefyd am godi'r trothwy, i £50,000, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y byddan nhw'n ei godi, ond nid ydynt wedi cyhoeddi'r swm hwnnw eto.

Mae UKIP yn dweud y byddant yn cynnal y cap o £60 yr wythnos ar gostau gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain.