Brentford 2-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
caerdydd brentfordFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe ddioddefodd gobeithion Caerdydd i ddringo yn y bencampwriaeth ergyd nos Fawrth yn erbyn Brentford, wedi dwy gôl hwyr gan Scott Hogan i'r tîm cartref.

Hanner cyntaf digon difflach, gyda Chaerdydd yn llwyddo i reoli'r chwarae am rannau helaeth o'r chwarae.

Fe gafodd y tair gôl eu sgorio yn y pum munud olaf, y ddwy gyntaf gan ymosodwr Brentford, Hogan, ac yna gôl o gysur i Gaerdydd gan Kenneth Zohore, funud cyn y chwiban olaf.

Mae Caerdydd yn parhau i fod yn y seithfed safle yn y bencampwriaeth, chwe phwynt tu ôl i Sheffield Wednesday, sydd yng ngwaelod y safleoedd ail-gyfle, un cysur i Gaerdydd oedd dim ond un pwynt sicrhaodd Sheffield Wednesday yn erbyn MK Dons nos Fawrth.