Rheolwyr gwaith Port Talbot i geisio prynu safleoedd Tata

  • Cyhoeddwyd
dur

Fe fydd Stuart Wilkie y dyn sydd wedi bod wrth y llyw yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot yn cyflwyno cynllun lle bydd rheolwyr y cwmni yn prynu'r safleoedd ym Mhrydain.

Mae Tata yn gwerthu eu holl safleoedd ym Mhrydain oherwydd eu colledion ac maent wedi gofyn i ddarpar brynwyr wneud cynigion.

Mr Wilkie oedd un o arweinwyr y tîm wnaeth ddatgelu cynllun i achub y diwydiant dur ym Mhrydain ar ôl i Tata ddatgelu eu colledion.

Ond fe gafodd y cynllun ei wrthod gan fwrdd rheoli Tata yn India.

Mae'r diwydiant wedi dioddef o ostyngiad ym mhris dur a gor gynhyrchu byd eang.

Ym Mhrydain mae'r sefyllfa wedi ei waethygu oherwydd costau ynni uchel a mewnforion rhad o China.

Byddai'n rhaid i'r cynllun gan Stuart Wilkie gael cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Prydain.

Mae undeb Community wedi croesawu'r cyhoeddiad.