Casnewydd 1-1 Oxford Utd

  • Cyhoeddwyd
casnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Daeth rhediad gwael Casnewydd o golli chwe gêm o'r bron i ben nos Fawrth, wrth iddynt orffen yn gyfartal gartref yn erbyn Oxford Utd.

Fe roddodd cyn ymosodwr Aston Villa, Jordan Bowery, yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar gydag ergyd agos o'i droed chwith.

Ond fe lwyddodd Casnewydd i lefelu'r sgôr o fewn munud gydag ergyd hir gan Medy Elito, ac felly yn sgorio ei gôl gyntaf y tymor hwn.

Fodd bynnag, nid yw Casnewydd, yn gwbl ddiogel yn yr ail adran, wedi i York City - sy'n ail o'r gwaelod, ennill yn erbyn Portsmouth nos Fawrth, sy'n golygu bod Casnewydd naw pwynt uwchlaw'r safleoedd cwymp gyda thair gêm yn weddill.

Wedi dweud hynny mae gan fechgyn Warren Feeney, wahaniaeth goliau o 11 gôl yn fwy nag Efrog.