Cymro wedi marw ym Mheriw

  • Cyhoeddwyd
Harry GreavesFfynhonnell y llun, Teulu Greaves

Daeth cadarnhad bod dyn o Wrecsam oedd ar goll ym Mheriw, wedi cael ei ddarganfod yn farw.

Fe gafodd corff Harry Greaves, 29 oed, ei ddarganfod ym mynyddoedd yr Andes.

Mae ei deulu wedi diolch i bawb fu'n helpu chwilio amdano.

Fe roedd y teulu wedi codi dros £31,000 ar ôl apêl ar y we, a hynny ar ôl gosod targed gwreiddiol o £25,000.

Cafodd yr arian ei ddefnyddio i dalu am yr ymgyrch achub.

Cafodd Mr Greaves ei eni yn Y Waun, ger Wrecsam ond fe'i magwyd yng Nghroesoswallt, Swydd Amwythig. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Iâl Wrecsam.