Rheolwyr gwaith Port Talbot i geisio prynu safleoedd Tata
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Stuart Wilkie, y dyn sydd wedi bod wrth y llyw yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot, yn cyflwyno cynllun lle byddai rheolwyr y cwmni yn prynu'r safleoedd ym Mhrydain.
Mae Tata yn gwerthu eu holl safleoedd ym Mhrydain oherwydd eu colledion ac maent wedi gofyn i ddarpar brynwyr wneud cynigion.
Mr Wilkie oedd un o arweinwyr y tîm wnaeth ddatgelu cynllun i achub y diwydiant dur ym Mhrydain ar ôl i Tata ddatgelu eu colledion o hyd at £1 milwin y dydd.
Ond fe gafodd y cynllun ei wrthod gan fwrdd rheoli Tata yn India fis diwethaf.
Mae Tata wedi cadarnhau eu bod wedi cysylltu â 190 o gynigwyr posibl ar gyfer safle Port Talbot.
Dywedodd llefarydd: "Nid ydym yn enwi yn gyhoeddus neu'n cadarnhau unrhyw fuddsoddwyr neu gynigwyr allai fod â diddordeb.
"Mae Tata wedi cysylltu â 190 o ddarpar gynigwyr. Rydym yn ceisio dod o hyd i brynwr cyfrifol.
"Nid ydym am weld y broses yn para am byth, ein prif nod yw dod o hyd i'r prynwr cywir."
Cymorth ariannol
Mae'r diwydiant wedi dioddef o ostyngiad ym mhris dur a gor-gynhyrchu byd eang.
Ym Mhrydain mae'r sefyllfa wedi ei waethygu oherwydd costau ynni uchel a mewnforion rhad o China.
Byddai'n rhaid i'r cynllun gan Stuart Wilkie gael cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Prydain.
Mae undeb Community wedi croesawu'r cyhoeddiad.
Mae Tata Steel yn cyflogi 15,000 o weithwyr yn y DU ac mae miloedd mwy yn cael eu cyflogi gan gwmnïau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant.
Mae dros 4,000 yn cael eu cyflogi ym Mhort Talbot, gyda channoedd eraill mewn safleoedd yn Nhrostre (Llanelli), Shotton a Llanwern.
Credir bod cynllun prynu y rheolwr yn bwriadu parhau a'r gwaith o gynhyrchu dur yn Port Talbot.
Prynwr posib arall yw cwmni Liberty House. Dywed y perchennog Sanjeev Gupta fod hi'n rhy gynnar eto i ddweud a fydd o yn bendant yn gwneud cynnig.
Credir y byddai unrhyw gynnig posib yn rhoi pwyslais ar ddefnyddio dur wedi ei ailgylchu, cynllun fyddai'n golygu llawer yn llai o weithwyr ym Mhort Talbot.