Pryder rhieni am uno ysgolion uwchradd
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth tua 200 o bobl fynychu cyfarfod cyhoeddus yn Aberhonddu nos Fawrth i drafod cynlluniau i uno dwy ysgol uwchradd yn yr ardal.
Mae Cyngor Powys yn ystyried cau Ysgol Uwchradd Aberhonddu ac Ysgol Gwernyfed ac agor ysgol newydd i ddisgyblion 11 i 16.
Fe fyddai'r disgyblion ôl-16 yn mynd i Goleg Castell Nedd Port Talbot.
Ond byddai uno'r ddwy ysgol uwchradd yn golygu cau'r ffrwd Gymraeg yn Aberhonddu.
Mae yna bryderon am yr effaith y byddai'r cynlluniau yn eu cael ar y Gymraeg yn yr ardal.
Byddai'n rhaid i fyfyrwyr sy'n gadael Ysgol Gynradd Gymraeg y dre, Ysgol y Bannau, deithio i Lanfair ym Muallt os am barhau ag addysg cyfrwng Cymraeg.
Dywed beirniaid y cynllun y gallai hynny fod yn ddigon i berswadio rhieni bod dewis addysg gymraeg yn fwy o drafferth na'i werth.
Mae niferoedd disgyblion ysgol ym Mhowys wedi gostwng bron i 20% mewn chwe blynedd a does dim digon arian i gynnal yr ysgolion presennol, meddai'r Cyngor.
O ganlyniad mae'r sir yn dadlau bod rhaid ad-drefnu.