Cyfreithiwr yn bencampwr duathlon Ewrop

  • Cyhoeddwyd
David Cole

Mae cyfreithiwr o Aberteifi yn dathlu ar ôl ennill y fedal aur dros Brydain yn ras duathlon ym Mhencampwriaethau Ewrop yn yr Almaen.

Bu David Cole yn paratoi yn galed ar gyfer y ras ar ôl gorffen yn safle rhif 17 yn duathlon Madrid y llynedd.

"Ma' fel y treiathlon ond heb y nofio, mae e 'chydig bach yn fwy syml ond mae o dal yn golygu rhedeg, seiclo wedyn rhedeg to," meddai.

Dywedodd iddo ddysgu o'i gamgymeriadau'r llynedd, gan godi i ymarfer am 06:00 er mwyn rhedeg bob bore cyn mynd i'w waith, ac yna mynd ar ei feic ar ôl gorffen ei waith.

"Ma' pawb yn dechrau'r ras gyda'i gilydd, ma'r ras gyntaf yn 5 Km a phawb gyda'i gilydd, wedyn mae angen mynd i le arbennig a newid ar gyfer y beic a hynny mor gyflym â chi'n gallu."

"Mae yna 20 Km ar y beic ac wedyn nol i wneud 2.5 Km ar y diwedd."

Mae David wedi bod yn gwneud y gamp ers tair i bedair blynedd, ac roedd angen mynd i rowndiau rhagbrofol cyn ennill yr hawl i gystadlu ar y lefel Ewropeaidd.

"Roedd hi'n ras agos, y safon yn uchel iawn - a llai na 20 eiliad yn gwahanu'r tri cyna, oedd hi'n ras dda, " meddai.

Nawr mae'r athletwr o Geredigion yn edrych ymlaen at y tymor nesaf.

Ei fwriad nawr yw dal ei afael ar y tlws Ewropeaidd ond hefyd cystadlu ym mhencampwriaethau'r byd y flwyddyn nesaf.

Disgrifiad o’r llun,
David Cole (canol) yn derbyn y fedal aur