Trafod dyfodol adeilad hanesyddol yng nghanol Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Carmarthen Law CourtsFfynhonnell y llun, Geograph/Ruth Sharville
Disgrifiad o’r llun,
Fydd dim achosion llys yn adeilad Neuadd y Dref ar ôl mis Mai.

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghaerfyrddin nos Fercher i drafod dyfodol adeilad hanesyddol yn y dref.

Yn ddiweddar penderfynodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder gau'r Llys Ynadon a Llys y Goron, a gwerthu adeilad Neuadd y Dref.

Nawr mae ansicrwydd am ddyfodol yr adeilad sydd wedi gweld nifer o achosion llys hanesyddol, yn cynnwys achos llys terfysgwyr Beca yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn 1843, cafodd nifer o derfysgwyr Beca eu dedfrydu yn y llys, a'u halltudio i Awstralia.

Dywed Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin bod yn rhaid i'r adeilad rhestredig Gradd II fod yn ganolog i unrhyw gynlluniau i adfywio'r dref yn y dyfodol.

Canolfannau cyfiawnder

Mae llysoedd Caerfyrddin yn un o ddeg o ganolfannau gweinyddu cyfiawnder sy'n cau ledled Cymru fel rhan o ymdrech gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i arbed arian a chynyddu effeithiolrwydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth y Llysoedd a'r Tribiwnlysoedd y bydd y llysoedd yng Nghaerfyrddin yn cau ddiwedd Mai, a'u bod yn "cydweithio yn agos gyda chyngor Sir Caerfyrddin er mwyn "cytuno ar y camau nesaf."

Fe fydd y cyfarfod cyhoeddus heno yng Nghlwb Pêl-droed Caerfyrddin am 19:00 nos Iau.

Yn ogystal â dyfodol Neuadd y Dref, fe fydd y cyfarfod yn trafod cynlluniau i adnewyddu canol y dref hefyd.