58 ers '58: Dim golau ar Y Vetch yn '81

  • Cyhoeddwyd

Ers i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 1958, mae'r tîm cenedlaethol wedi dod yn agos at wneud eu marc ar y byd pêl-droed rhyngwladol sawl tro. Mewn cyfres o erthyglau, bydd Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar rai o'r adegau cyffrous orffennodd mewn siom wrth i Gymru foddi wrth ymyl y lan.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd gan Gymru record dda pan yn chwarae ar Y Vetch yn Abertawe

Yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 1982, fe gafodd Cymru ddechrau gwych i'r ymgyrch.

Daeth pedair buddugoliaeth yn y pedair gêm gyntaf yn erbyn Gwlad yr Iâ, Twrci (ddwywaith) a Tsiecoslofacia, a phan gafodd Cymru gêm gyfartal yn erbyn y ffefrynnau Yr Undeb Sofietaidd yn y gêm nesaf, roedd y gobeithion i gyrraedd y rowndiau terfynol yn Sbaen yn uchel.

Fe gollon nhw'r nesaf oddi cartref yn erbyn Tsiecoslofacia, ond fe fyddai un fuddugoliaeth o'r ddwy gêm oedd yn weddill wedi bod yn ddigon.

Y gêm nesaf oedd Gwlad yr Iâ, ac roedd y gêm i'w chynnal ar Y Vetch yn Abertawe - cae lle'r oedd gan Gymru record ardderchog yn y gorffennol.

Beth allai fynd o'i le?

Ffynhonnell y llun, YouTube
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Cymru wedi rheoli'r hanner cyntaf yn llwyr

Embaras

Roedd Alan Curtis, sydd bellach yn rhan o dîm hyfforddi clwb pêl-droed Abertawe, yn chwarae i Gymru y noson honno.

"Fe ddechreuon ni'r gêm yn wych," meddai. "Fe gafodd Robbie (James) y gôl gyntaf ac roedden ni'n chwarae'n dda iawn, iawn.

"Fe gafon ni gyfle ar ôl cyfle ac fe ddylen ni fod wedi bod dwy, tair... hyd yn oed pedair ar y blaen cyn hanner amser.

"Ond wedyn rhyw funud cyn yr egwyl, fe wnaeth y golau ddiffodd!"

Fe ddiffoddwyd y llifoleuadau ar y Vetch, ac mae'n ddigwyddiad sy'n embaras i bêl-droed Cymru hyd heddiw.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Alan Curtis yn un o nifer o dîm Abertawe oedd yn chwarae dros Gymru ar y pryd

'Colli momentwm'

Gyda'r cae mewn tywyllwch bu'n rhaid i'r ddau dîm adael y cae am gyfnod o ryw 40 munud, ac mae Alan Curtis yn cofio beth ddigwyddodd wedyn.

"Fe ddaeth pawb nôl i'r cae i chwarae'r munud oedd yn weddill o'r hanner cyntaf, ac wedyn dyma ni'n gorfod troi rownd a chwarae'r ail hanner yn syth.

"Roedden ni wedi colli'r holl fomentwm, ac fe wnaethon nhw beth oedden ni wedi gwneud iddyn nhw yn yr hanner cyntaf.

"Fe sgorion nhw'n syth bron (i'w gwneud hi'n 1-1). Wedyn fe ges i gôl i'w gwneud hi'n 2-1 i ni, ond fe gafon nhw un arall, ac yn y diwedd roedden ni'n lwcus i beidio colli.

"Mae'n hawdd dweud wrth edrych yn ôl, ond roedd tîm ymosodol iawn ganddo ni ar y noson er y ffaith y byddai ennill 1-0 wedi bod yn ddigon. Efallai bod hynny'n gamgymeriad."

Roedd un cyfle arall gan Gymru wrth deithio i herio'r Undeb Sofietaidd yn eu gêm olaf, ond roedd y cyfle gorau wedi mynd.

Mewn awyrgylch anodd yn Tbilisi (sydd bellach yn rhan o Georgia wrth gwrs) fe gollodd Cymru o 3-0, a phan gafodd Yr Undeb Sofietaidd a Tsiecoslofacia gêm gyfartal yn yr ornest olaf yn y grŵp, dyna'r ddau aeth ymlaen i Gwpan y Byd gyda Chymru'n colli allan ar wahaniaeth goliau yn unig.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mae Alan Curtis bellach yn brif hyfforddwr gyda'r Elyrch

Fel y dywed Alan Curtis: "Roedd controversy yn ein dilyn ni i bobman yn y blynyddoedd yna. Ro'n i'n rhan o'r garfan pan oedd digwyddiad Joe Jordan yn Anfield yn 1977.

"Ond 1981 oedd yn sicr y mwyaf siomedig, oherwydd fe wnaeth y llifoleuadau'n diffodd dynnu'r gwynt o'n hwyliau ni, a dyna gostiodd le i ni yn Sbaen.

"Dyna oedd ein hanes ni... beth allai fod wedi bod."