Diweithdra Cymru yn is na chyfradd y DU
- Cyhoeddwyd

Mae diweithdra yng Nghymru wedi gostwng yn is na chyfradd y DU am y tro cyntaf mewn dwy flynedd.
Mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn 5% erbyn hyn, o'i gymharu â 5.1% ar gyfer y DU gyfan.
Mae'r ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos mai Cymru oedd y rhan o'r DU a welodd y gostyngiad mwyaf mewn diweithdra o gymharu â thri mis yn ôl a'r cynnydd mwyaf mewn cyflogaeth.
Mae diweithdra yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn raddol y rhan fwyaf o'r flwyddyn ddiwethaf, ond wedi bod yn uwch na chyfartaledd y DU ers gwanwyn 2014.