Adrannau gofal brys: Amseroedd aros wedi dirywio
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth amseroedd aros mewn adrannau gofal brys yn ysbytai Cymru ddirywio yn ystod y gaeaf, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd ddydd Mercher.
Mae'r ystadegau ar gyfer mis Mawrth yn dangos mai dim ond 76.3% o gleifion dreuliodd llai na phedair awr mewn adrannau gofal brys cyn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau - i lawr o 77.2% ym mis Chwefror.
Y targed yw y dylai 95% o gleifion dreulio llai na phedair awr mewn adrannau gofal brys.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fis diwethaf bod y dirywiad mewn perfformiad y gaeaf hwn yn adlewyrchu'r ffaith bod adrannau damweiniau ac achosion brys wedi bod yn brysurach nag erioed.
4,387 achos
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod 4,387 achos o dreulio mwy na 12 awr mewn unedau gofal brys ym mis Mawrth - 767 yn fwy (cynnydd o 21%) nag ym mis Chwefror.
Targed Llywodraeth Cymru yw na ddylai unrhyw un aros mewn adrannau gofal brys mor hir â hynny.
Mae'r ffigyrau hefyd yn sylweddol waeth o'i gymharu â mis Mawrth y llynedd - pan dreuliodd 82.3% o achosion lai na phedair awr mewn adrannau gofal brys a 2,443 o gleifion wedi treulio mwy na 12 awr yno.
Ym mis Mawrth roedd 86,925 o achosion unedau gofal brys - bron i 5,000 yn fwy nag ym mis Mawrth y llynedd.
Credir bod salwch fel y ffliw a norofeirws wedi rhoi straen ychwanegol ar wasanaethau.
Mae ffigyrau diweddar yn awgrymu bod adrannau damweiniau ac achosion brys mewn rhannau eraill o'r DU hefyd yn cael trafferth i ateb y galw cynyddol.
Mae'r perfformiad yn Lloegr hefyd wedi gostwng i isafbwynt newydd yn y misoedd diwethaf - er ei fod yn well nag yng Nghymru.
Nid yw'r GIG yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ychwaith yn cwrdd â'u targedau.