Lladd ci yn fwriadol: £1,600 o ddifrod i gar yr heddlu

  • Cyhoeddwyd
Ci hela a'r A55Ffynhonnell y llun, Google/Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,
Roedd ci tebyg i'r un yn y llun yn rhedeg mewn traffig

Mae bron i £1,600 wedi cael ei wario ar atgyweirio difrod i gar heddlu redodd dros gi ar yr A55 yn fwriadol ym mis Chwefror.

Roedd y ci yn rhedeg tuag at geir oedd yn dod i'w gyfeiriad rhwng Llanfairfechan a thwnnel Conwy.

Dywedodd yr heddlu bod y gwaith trwsio i'r car "wedi cael ei gwblhau erbyn hyn a chost y gwaith atgyweirio oedd £1,561.48".

Daeth y wybodaeth i law gan gais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Bu sawl ymdrech i ddal y ci ac fe gafodd un plismon ei frathu, meddai'r heddlu.

Mae rhai perchnogion cŵn yn anhapus gyda'r hyn ddigwyddodd ond mae perchennog y ci wedi dweud bod y swyddogion wedi gwneud y penderfyniad cywir.

Dywedodd y llu nad oedd heddweision wedi gallu dod â'r ci dan reolaeth ac mai'r "unig opsiwn diogel" oedd i'w ladd.