Lori wedi taro yn erbyn wal eglwys yn Nhreforys

  • Cyhoeddwyd
Y lori yn erbyn wal eglwys Sant Ioan yn NhreforysFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae lori wedi taro yn erbyn wal eglwys Sant Ioan yn Nhreforys, ger Abertawe, ddydd Mercher.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni bwyd Iceland fod y gyrrwr wedi mynd yn sâl wrth y llyw.

"Mae'n gwella yn yr ysbyty erbyn hyn ac rydyn ni'n meddwl amdano a'i deulu ar yr adeg hon," meddai'r llefarydd.

"Byddwn ni'n parhau i ymchwilio i'r achos. Doedd neb arall yn rhan o'r digwyddiad."

Mae swyddogion Heddlu De Cymru hefyd yn ymchwilio i achos y ddamwain, a ddigwyddodd tua 04:50.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Ffynhonnell y llun, Wales News Service