Lyn Jones yn gadael y Dreigiau
- Cyhoeddwyd
Mae Dreigiau Casnewydd Gwent wedi cadarnhau bod Lyn Jones wedi gadael ei swydd fel cyfarwyddwr rygbi gyda'r rhanbarth.
Dywedodd y Dreigiau bod y rhanbarth a Jones wedi cytuno gyda'r penderfyniad.
Fe wnaeth Jones, 51, ymuno ym Mehefin 2013, ond mae wedi methu dwy gêm ddiwethaf y rhanbarth oherwydd salwch.
Cyn gweithio gyda'r Dreigiau, roedd Jones yn hyfforddwr i'r Gweilch cyn gweithio yn Abu Dhabi a gyda Chymry Llundain.
'Gwell i'r tîm'
Dywedodd Prif Weithredwr y rhanbarth, Stuart Davies, bod adolygiad diwedd tymor wedi ei symud ymlaen oherwydd absenoldeb Jones o'r gwaith.
"Er bod rhwystredigaeth a siom y tymor wedi ei esmwytho gan restr hir o anafiadau a nifer fawr o golledion agos a phwyntiau bonws wrth golli, fe wnaeth y ddwy ochr gytuno y byddai'n well i'r tîm pe bai llais newydd wrth y llyw wrth symud ymlaen," meddai.
Ychwanegodd y byddai'r hyfforddwr Kingsley Jones yn rheoli'r tîm tan ddiwedd y tymor.
Mewn datganiad, dywedodd Lyn Jones: "Er nad yw wedi bod heb ei heriau, rydw i wedi mwynhau fy nhair blynedd gyda'r Dreigiau.
"Ond wrth i'r rhanbarth symud i mewn i gyfnod o berchnogaeth newydd a buddsoddiad newydd, roedd yn teimlo'r amser cywir i fi gamu o'r neilltu."