Etholiad y Cynulliad: Dadl fyw rhwng yr arweinwyr
- Published
Bydd arweinwyr y chwe phrif blaid yng Nghymru yn mynd ben ben mewn dadl fyw am y tro cyntaf yn ymgyrch etholiad y Cynulliad nos Fercher.
ITV Cymru fydd yn cynnal y digwyddiad gyda'r blaid Lafur, y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, UKIP a'r blaid Werdd yn cymryd rhan.
Golygydd gwleidyddol y sianel, Adrian Masters, fydd yn cadeirio'r ddadl am 20:00 ac mae posib gwrando arni'n fyw ar BBC Radio Wales.
Bydd y chwe arweinydd yn gwrthdaro unwaith eto mewn ail ddadl ar BBC One Wales ddydd Mercher nesaf.
Yr arweinwyr:
Carwyn Jones - Llafur Cymru
Andrew RT Davies - Ceidwadwyr Cymreig
Leanne Wood - Plaid Cymru
Kirsty Williams - Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig
Nathan Gill - UKIP
Alice Hooker-Stroud - Y Blaid Werdd