Disgwyl cyhoeddi canlyniad apêl Ched Evans
- Cyhoeddwyd

Bydd penderfyniad am apêl y pêldroediwr Ched Evans yn erbyn ei euogfarn am dreisio dynes yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach dydd Iau.
Cafodd Evans ei garcharu yn 2012 am dreisio dynes 19 oed mewn gwesty yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.
Roedd barnwyr yn y Llys Apêl wedi ystyried gwybodaeth newydd gafodd ei gynnig gan dîm cyfreithiol Ched Evans.
Cafodd y chwaraewr rhyngwladol ei ryddhau o garchar yn 2014 wedi iddo dreulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd dan glo.
Nid yw Evans, oedd yn arfer chwarae i Manchester City, Norwich a Sheffield United wedi derbyn cytundeb gan glwb newydd wedi iddo adael y carchar.