Parc Manwerthu: Gobaith am 260 o swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae datblygwyr wedi cyflwyno cynllun i ddatblygu parc manwerthu yn Cross Hands, Sir Caerfyrddin.
Gobaith y datblygwyr yw y byddai'r cynllun yn creu 260 o swyddi llawn amser ar y safle.
Roedd safle Gorllewin Cross Hands wedi ei glustnodi fel lleoliad archfarchnad Sainsbury's, ond fe wnaeth y cwmni hwnnw newid eu meddwl a gwerthu'r safle i gwmni Conygar yn 2015.
Mae Conygar nawr wedi gwneud cais cynllunio i ddatblygu siopau, tafarn a bwyty, a maes parcio i 562 o gerbydau ar y safle.
Wrth ymateb i'r cais cynllunio, dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gâr, y Cynghorydd Emlyn Dole: "Rwy'n cefnogi'r cais cynllunio'n llwyr."
Ond nid pawb sydd wedi croesawu'r cais cynllunio.
Dywedodd Neil James, Cadeirydd Siambr Fasnach a Busnes Caerfyrddin: "Mae Cross Hands yn ardal sydd ar i fyny, gyda mwy a mwy o dai'n cael eu hadeiladu yno felly fe fyddai'n beth da iddyn nhw, ond dydyn ni ddim yn cefnogi'r siopau hyn sydd tu fas i'r dref.
"Mae rhai unedau gwag yng Nghaerfyrddin, ag hyd yn oed mwy yn Llanelli - felly mae'n bryder y gallai adeiladu parc manwerthu fel hwn ddenu siopwyr i ffwrdd o ganol ein trefi."