Lluniau: Proms Cymru

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunYr haul yn machlud dros Brom Penarth

O...na sori. Nid Proms Cymru, yr ŵyl ond proms Cymru, sef mannau i gerdded wrth ochr y môr.

Mae'n ddrwg 'da ni am unrhyw ddryswch.

ffynhonnell y llun, Gwasanaeth awyr Heddlu Gogledd Cymru
disgrifiad o’r llunProm Llandudno o'r awyr
ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
disgrifiad o’r llunPier Aberystwyth o'r prom
disgrifiad o’r llunLlecyn i chi gael cysgodi ar ddiwedd prom Porthcawl
disgrifiad o’r llunOchr ddeheuol prom Mwmbwls nôl yn yr oes a fu
ffynhonnell y llun, Josh Cooper
disgrifiad o’r llunJeti Aberdyfi wrth i'r haul fachlud
ffynhonnell y llun, Iwan Williams
disgrifiad o’r llunPen draw pier Bangor
disgrifiad o’r llunProm Bae Colwyn cyn i'r pier gael ei adeiladu. A fydd e'n edrych fel hyn eto cyn bo hir?
disgrifiad o’r llunPen pellaf prom Biwmares
disgrifiad o’r llunMae prom Porthcawl yn medru bod yn beryglus yn ôl y sôn!

Gyda llaw mae tymor Proms Cymru, yr ŵyl gerddorol yn dechrau yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd Nos Sadwrn 16 Gorffennaf gyda pherfformiad o Requiem gan Verdi.

Bydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, y soprano Rebecca Evans, Cantorion Ardwyn a Chôr Polyffonig Caerdydd ymhlith yr artistiad fydd yn perfformio dan arweiniad Owain Arwel Hughes