Patholegydd yn amau 'hunanladdiad' Cheryl James
- Cyhoeddwyd

Mae patholegydd fforensig wedi bwrw amheuon ar honiadau fod Preifat Cheryl James wedi lladd ei hun ym marics Deepcut yn 1995.
Dywedodd yr Athro Derrick Pounder wrth gwest i farwolaeth y milwr 18 oed o Langollen, taw baw neu gleisiau oedd y marciau du a welwyd ar wyneb y milwr.
Roedd arbenigwyr balistig wedi dweud wrth lys y crwner yn Woking fod ''olion parddu'' ar wyneb a bawd Cheryl James yn arwydd o glwyf a achoswyd gan wn.
Fe ofynodd teulu Cheryl James i'r Athro Pounder wneud archwiliad post mortem y llynedd. Dywedodd wrth y cwest nad oedd wedi dod o hyd i unrhyw barddu wrth archwilio'r corff.
Wrth gymharu lluniau o glwyfau milwr arall, Milwr A, oedd wedi lladd ei hun, â lluniau o Preifat James, fe ddwedodd yr Athro Pounder fod rhai'r milwr yn dangos yn glir olion parddu wedi'u serïo yn y clwyf ac ar y croen o gwmpas y briw.
''Ond os edrychwn ni ar luniau o Miss James, fe welwch chi rwygiadau yn y croen ond welwn ni ddim olion unrhyw barddu,'' meddai.
Ychwanegodd y byddau ergyd gwn yn achosi i'r croen i ''chwyddo'' fel ''balŵn'' ac y byddai swm sylweddol o nwy yn bwrw'r croen gan adael marc.
Mae'r cwest yn parhau.