Carcharu dyn am 20 mis am ysgwyd babi
- Cyhoeddwyd

Mae dyn a achosodd niwed difrifol i faban drwy ei ysgwyd wedi ei garcharu am 20 mis.
Cyfaddefodd Kieran Brown, 23 oed o'r Rhyl iddo achosi niwed corfforol difrfiol i'r plentyn, nad oes modd cyhoeddi ei enw am resymau cyfreithiol.
Dywedodd Simon Killen ar ran yr amddiffyniad: "Un weithred fyrbwyll oedd hon gan ddiffynydd nad oedd yn bwriadu achosi niwed."
Dywedodd nad oedd yn gymwys i ofalu am blant.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod y plentyn "llipa" wedi ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd cyn cael ei drosglwyddo i uned gofal dwys ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.
Dywedodd y barnwr Geraint Walters fod meddygon wedi achub bywyd y baban, sydd wedi gwella'n llwyr o'i anafiadau. Roedd wedi dioddef gwaedu ar y llygaid a'r ymennydd.
Dywedodd y barnwr wrth Brown: "Rydych chi'n dadlau, ac mae'r Goron yn derbyn, nad oeddech chi'n bwriadu anafu'r plentyn." Ond doedd yr anafiadau ddim yn ganlyniad i ysgwyd "ysgafn".
Ychwanegodd y barnwr: "Roedd hyn o ganlyniad i chi golli rheolaeth am eiliad a defnyddio grym sylweddol."
Clywodd y llys fod gan Brown "anhawsterau mawr" wrth geisio rheoli ei dymer.